Y Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau

9 Mai 2022 – Microsoft Teams

Y bobl oedd yn bresennol


Delyth Jewell AS – Cadeirydd

Joshua Hayman, Ysgrifenyddiaeth

Andy Wallsgrove, Comisiynydd Plant Cymru

Carol Maddock, Prifysgol Abertawe

Carole Philips, Kidscape

Catrin Hedd-Jones, Prifysgol Bangor

David McKinney, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Deborah Morgan, Prifysgol Abertawe

Dereck Roberts, NPC Cymru

Kathryn Morgan, Shared Lives Plus

Liz Jones, Prifysgol Abertawe

Lois Peach, Prifysgol Bryste (Gwestai)

Marie-Clare Hunter, Grŵp Cynghori ENRICH Cymru

Mirain Llwyd Roberts, Cyngor Gwynedd

Peredur Owen Griffiths AS

Phoebe Brown, Caffi Trwsio Cymru

Yr Athro Bobby Duffy, King College Llundain (Gwestai)

Rhys Jackson, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rosie Keogh, Cyngor Caerdydd

Sandy Clubb, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Sharon Ford, Amgueddfa Cymru

Stephanie Green, Prifysgol Abertawe

Sue Egesdorff, Ready Generations

Tom Magner, Carers World Live

 


Ymddiheuriadau


Altaf Hussain AS

Laraine Bruce

Lynda Wallis, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Neil Williams, Gofal a Thrwsio Cymru

Nia Richards, Tybed

Stephen Burke, United for All Ages


1.    Croeso a chyflwyniadau – Delyth Jewell AS

Rhoddodd DJ groeso i aelodau’r grŵp a dweud bod Wythnos Pontio Cenedlaethau’r Byd wedi cael ei chynnal yn yr wythnosau cyn hynny.

Diolchodd DJ ar goedd am waith JH ar sefydlu’r grŵp a bwrw ymlaen â'r camau gweithredu. Diolchodd DJ i Michelle Lewis o swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn am ei chyfraniadau i’r grŵp.

Cyflwynodd Kathryn Morgan, David McKinney, Lois Peach a Sandy Clubb eu hunain i’r grŵp fel aelodau newydd.

2.    Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cymeradwyodd y grŵp y cofnodion.

3.    Wythnos Pontio’r Cenedlaethau’r Byd 2022 – Mirain Llwyd Roberts, Cyngor Gwynedd

Diolchodd MLlR i’r grŵp am eu holl gyfraniadau i hyrwyddo a chymryd rhan yn Wythnos Pontio Cenedlaethau'r Byd. Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tudalen ar ei gwefan ar faterion sy’n ymwneud â’r cenedlaethau ac wedi lansio 7 fideo mewn partneriaeth ledled Cymru. Dangosodd MLlR fideo i’r grŵp yn cynnwys Laraine Bruce, aelod o’r grŵp, a bydd yn rhannu’r rhestr chwarae gyda’r grŵp.

Tynnodd sylw at yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnos a oedd wedi cyrraedd llawer o bobl – cafwyd gweminar ar y dydd Iau hefyd, ynghylch rhannu sgiliau rhwng cenedlaethau, a chynaliadwyedd. Nododd bod rhaid gohirio un digwyddiad tan ganol mis Mehefin – bydd MLlR yn rhannu’r dyddiad.

Nododd fod CADR hefyd wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth genedlaethol i bobl gymryd rhan ynddi. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnwys mewn calendr ac mewn arddangosfa yn y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Nododd JH y gwaith a wnaeth y Comisiynydd Pobl Hŷn yn ystod yr wythnos a bod datganiad ar y cyd wedi cael ei gyhoeddi gyda chomisiynwyr Pobl Hŷn, Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol a gyda DJ i ddangos pwysigrwydd undod rhwng cenedlaethau.

Roedd SG hefyd wedi dweud bod MLlR wedi cael ei chyfweld ar gyfer podlediad fel rhan o’r wythnos, a bydd yn rhannu hwn gyda’r grŵp.

Anogodd DJ yr aelodau i rannu’r gystadleuaeth tynnu lluniau â chynifer o bobl â phosibl.

4.    Newid Hinsawdd a’r Economi Gylchol – Phoebe Brown, Caffi Trwsio Cymru

Tynnodd PB sylw at y modd y mae gwaith sydd eisoes ar y gweill gyda’r Caffi Trwsio yn pontio’r cenedlaethau, a’r angen i ddelio â’r newid yn yr hinsawdd drwy roi sylw i bontio’r cenedlaethau. Gofynnodd PB a fyddai unrhyw aelodau o’r grŵp yn dymuno ffurfio is-grŵp i edrych ar y mater hwn yn benodol – mae llawer o brosiectau newid yn yr hinsawdd yn ceisio arallgyfeirio felly mae’n bwysig cael lleisiau gwahanol.

Nododd DR fod cysylltiad rhwng yr argyfwng costau byw a’r angen i ôl-osod cartrefi drwy inswleiddio ac arbedion ynni eraill, a byddai hyn hefyd yn creu cyflogaeth.

Ychwanegodd DJ fod y naratif yn yr argyfwng costau byw a’r newid yn yr hinsawdd yn aml yn gwthio cenedlaethau yn erbyn ei gilydd.

Rhoddodd JH wybod i’r grŵp fod aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â’r grŵp a’u bod yn debygol o fod â diddordeb mewn symud ymlaen â hyn.

Nododd SC fod diddordeb gan y Grŵp Trawsbleidiol ar lesiant ac argyfyngau hinsawdd/ynni a bod cyfle i gydweithio – nododd adroddiad ar ddatgarboneiddio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dywedodd Catrin Hedd Jones: https://theconversation.com/investing-in-warmer-housing-could-save-the-nhs-billions-82196

Os hoffai unrhyw un fod yn rhan o’r is-grŵp, dylent anfon e-bost at Phoebe: phoebe@repaircafewales.org

5.    Y diweddaraf am gynllun peilot Homeshare yng Nghymru – Kathryn Morgan, Shared Lives Plus

Dywedodd KM fod Shared Lives Plus wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i sefydlu 3 prosiect rhannu cartref yng Nghymru. Amlinellodd bwrpas Share Lives Plus a rhywfaint o’r ymchwil a wnaethpwyd ganddynt i ystyried ble i sefydlu rhaglenni.

Nododd fod 2 gynllun peilot wedi’u sefydlu hyd yma – bydd y prosiect yn Abertawe yn canolbwyntio ar alluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser, cael cwmni ac ennill sgiliau digidol. Dim ond 26 o bobl hŷn fydd eu hangen ar y cynllun peilot yn Abertawe i fod yn brosiect cynaliadwy – hyd yma roedd 3 unigolyn wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan. Ychwanegodd eu bod yn gobeithio gweithio gyda’r cyfryngau lleol i godi ymwybyddiaeth.

Cynhelir yr ail beilot yn Sir Benfro – sefydlwyd cydlynydd eisoes ac mae’n gweithio i ddechrau cyflwyniadau a sefydlu grŵp llywio. Ychwanegodd eu bod eisiau i’w trydydd cynllun peilot fod yn y gogledd a’u bod yn edrych ar Gonwy o ystyried ei phoblogaeth fawr o bobl dros 65 oed.

Gofynnodd KM a allai’r grŵp rannu gwybodaeth gyda rhwydweithiau i godi ymwybyddiaeth ac a oes gan unrhyw bobl eraill ddiddordeb mewn clywed ganddynt.

Gofynnodd DJ a fyddai modd cael gwybod yn uniongyrchol gan gyfranogwyr ynglŷn â sut mae pethau’n mynd? Dywedodd KM ei bod wedi recriwtio llysgennad newydd sydd wedi ‘rhannu cartref’ 3 neu 4 gwaith ac y byddai’n gallu dod i siarad â’r grŵp.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn siarad â Kathryn gysylltu â kathryn@sharedlivesplus.org.uk

6.    Gwaith CADR a strategaeth recriwtio yn y dyfodol – Amy Murray, Prifysgol Abertawe

Nododd DM na all Amy fod yn bresennol heddiw ac y dylid nodi ei hymddiheuriadau. Bydd rhywun yn dod i’r cyfarfod nesaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.

7.    Unrhyw fater arall

Gofynnodd DJ i’r grŵp a fyddai modd canslo’r cyfarfod ym mis Gorffennaf a chynnal y cyfarfod nesaf ym mis Medi gydag aelodau’r Senedd Ieuenctid a fyddai’n gallu bod yn bresennol bryd hynny. Cytunodd y grŵp.

Rhannodd MLlR wybodaeth am weminar a gynhelir ar 20 Mehefin ar ddathlu ymchwil pontio’r cenedlaethau. E-bostiwch Mirain i gofrestru: mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru 

Tynnodd SG sylw at gynhadledd Cymdeithas Polisi Cymdeithasol yn Abertawe rhwng 6 ac 8 Gorffennaf ar thema pontio’r cenedlaethau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: http://www.social-policy.org.uk/what-we-do/conference-2/

Nododd DR fod llawer o’i aelodau’n gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Ychwanegodd fod llawer o bobl hŷn yn poeni am fynd i ddyled a’u bod yn poeni fod mwy o ddyled yn cael ei rhoi ar bobl.

Mynegodd SE y gwaith a wnaed gan Ready Generations am y nodau cynaliadwyedd a bod llawer o bobl hŷn eisiau bod yn rhan o fywydau eu plant ac wyrion ac eisiau dweud eu dweud am eu dyfodol. Nododd rai o’r syniadau sydd wedi dod gan bobl hŷn i helpu pawb i arbed arian, gan gynnwys trwsio dillad a ffyrdd gwell o ddefnyddio'r popty a’r peiriant golchi.

Nododd DM fod costau byw yn effeithio hefyd ar unigrwydd ac arwahanrwydd – mae plant mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn unig ac mae hynny’n parhau pan fyddant yn oedolion. Mae DM yn ystyried datblygu arolwg costau byw, a allai gynnwys cwestiynau am agweddau at gostau byw a chenedlaethau. Bydd DM yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp.

Ychwanegodd DR ei fod wedi delio â’r materion dan sylw ers amser maith fel llywodraethwr ysgol – gwahoddodd yr aelodau weld beth mae’r ysgolion yn ei wneud i gefnogi plant. Awgrymodd y gallai pobl gysylltu â’r Pennaeth dros dro os oes ganddynt ddiddordeb. Gellir cysylltu â Paul Davies yn DaviesP151@hwbmail.net

Nododd LJ ei chefndir mewn cynnal ymchwil i dlodi, ac mai un o’r grwpiau allweddol yr oedd hi wedi edrych arnynt o’r blaen oedd merched sengl dros 50 oed. Cynigiodd weithio gyda DR ar hyn. Ychwanegodd mai un o’r pethau sy’n cael sylw gan bobl hŷn yw mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Nododd SG fod hwn yn fater sy’n effeithio ar bobl o bob oed.

8.    Cenedlaethau – A yw pryd rydych chi’n cael eich geni yn siapio pwy ydych chi? - Yr Athro Bobby Duffy

Rhoddodd BD gyflwyniad PowerPoint ar yr ymchwil y mae wedi’i wneud ar genedlaethau.

Gofynnodd MC a yw dulliau cyfathrebu gwahanol yn dwysau’r bylchau ymddangosiadol rhwng cenedlaethau ac a oes llai o broblem gyda hyn ymysg cymdeithasau sy’n byw mewn ffyrdd sy’n pontio’r cenedlaethau?

Nododd BD fod pobl iau bob amser wedi ceisio gwahanu eu hunain oddi wrth eu rhieni a’u neiniau a’u teidiau, ond mae cyflymder a graddfa’r ffordd y mae technoleg ddigidol wedi siapio cymunedau yn agwedd newydd ar hyn. Nododd y gall pobl fod yn bresennol mewn ystafell ond nid mewn trafodaethau nac mewn cymuned. Nododd ei bod yn bwysig gwahanu’r cysylltiadau y tu mewn a’r tu allan i’r aelwyd – mae rhieni a neiniau a theidiau yn treulio mwy o amser gyda’u plant nawr ac mae plant yn teimlo’n nes eu rhieni nag oeddent yn y gorffennol ond mae hyn wedi troi’n brofiad niwclear iawn gan golli'r cysylltiad ehangach ag eraill. Ychwanegodd fod y teulu niwclear yn gweithio’n dda os oes gennych chi adnoddau, ond os nad yw’r adnoddau gennych chi, rydych chi’n cael trafferth heb rwydwaith ehangach o gefnogaeth.

Nododd DJ ddadl yn y Senedd ar gost y diwrnod ysgol, a’r effaith ehangach a gaiff hynny ar gyfeillgarwch neu unigrwydd plant, gan gynnwys y dylanwad y gall trafferthion ariannol rhieni ei gael ar eu plant.

Holodd SG am y labeli a’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio gwahanol grwpiau, ac am yr effaith a gaiff hynny.

Nododd BD fod y gair ‘myths’ wedi cael ychwanegu at deitl y llyfr yn yr Unol Daleithiau gan eu bod wedi symud ymlaen i siarad am y niwed y gallai’r labeli hyn ei wneud. Nododd eu bod yn aml yn ddiog ac yn anghywir – tynnodd sylw at y syniad fod pobl ifanc yn faterol ond bod hyn yn rhywbeth sy’n ailadrodd gyda phob cenhedlaeth. Ychwanegodd fod rhai academyddion yn galw am dynnu’r labeli ond ei fod yn parhau i’w defnyddio er mwyn olrhain y mater sy’n effeithio ar bobl oherwydd pryd y cawsant eu geni yn hytrach na’u hoedran. Awgrymodd ei bod yn well cyfrannu ymchwil dda yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to ar y mater hwn.

Nododd DJ y gall mythau ‘gwirion’ arwain at safbwyntiau mwy niweidiol weithiau. Gofynnodd a yw hynny yr un fath ym mhob man?

Nododd DB ei bod yn gyffredin mewn gwahanol wledydd i wahanol fathau o ystrydebau fodoli – mae rhywfaint o seicoleg ‘beio’r dioddefwr’ y tu ôl i hyn, sef pan fo pobl yn meddwl mai eu cymeriad nhw sy’n gyfrifol am fethiannau grŵp yn hytrach na’r cyd-destun y maent yn byw ynddo. Nododd fod cysylltiadau cadarnhaol yn bodoli rhwng cenedlaethau er gwaethaf y cyd-destun ond bod angen mwy o gefnogaeth ar hynny.